Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (199)v3 |
1 Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
|
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
Cynnig i ethol aelodau i Bwyllgorau NDM5510 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Gwyn Price (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle Vaughan Gething (Llafur).
|
4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno Bil Addysg Uwch (Cymru) (60 munud) |
5 Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014 (15 munud) NDM5508 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ebrill 2014.
Dogfennau Ategol
Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru)
2014 Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Dim pwyntiau adrodd
|
6 Dadl: Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb – Fframwaith Gweithredu (60 munud) NDM5507 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi ‘Mynd i’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’ a’r Cynllun Cyflawni ategol, a lansiwyd ar 12 Mai 2014.
Gallwch weld copi o Mynd i’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu drwy glicio ar y ddolen a ganlyn: http://wales.gov.uk/topics/equality/rightsequality/hate-crime/?lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r pryder a fynegwyd gan y Cyngor Cydraddoldeb Hiliol yng Nghyfarfod Fforwm Hil Cymru ar 13 Mawrth 2014 bod materion yn ymwneud â hil yn isel ar yr agenda i Lywodraeth Cymru.
Mae cofnodion cyfarfod 13 Mawrth 2014 ar gael ar gopi caled yn unig. Mae copïau ar gael yn Llyfrgell yr Aelodau.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu cofnodi a chyhoeddi troseddau casineb yn briodol am y tro cyntaf.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gan gynghorau ysgol a llywodraethwyr ysgol, yn ogystal ag athrawon, teuluoedd a’r gymdeithas ehangach, rôl i’w chwarae i atal bwlio. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 21 Mai 2014